Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Medi 2018
Amserlen ar gyfer ystyried cyllideb 2019 - 2020
1. Ar 6 Gorffennaf 2018, ysgrifennodd Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip at y Pwyllgor Busnes gyda dyddiadau arfaethedig ar gyfer cyhoeddi Cyllideb Ddrafft 2019-20, yn unol â Rheol Sefydlog 20.2.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 20.4, mae’r Pwyllgor Busnes wedi ymgynghori â’r Pwyllgor Cyllideb ac wedi llunio’r amserlen a ganlyn er mwyn ystyried cyllideb 2019-20.
|
Dyddiad
|
Gosod cynigion cyllideb amlinellol ar gyfer y Llywodraeth
|
2 Hydref 2018 |
Gosod cynigion cyllideb manwl ar gyfer y Llywodraeth |
23 Hydref 2018 |
Dyddiad cau i’r Pwyllgor Cyllid adrodd ar y cynigion cyllideb amlinellol ar gyfer y Llywodraeth
|
27 Tachwedd 2018 |
Dyddiad cau i’r pwyllgorau eraill ystyried y cynigion cyllideb manwl
|
27 Tachwedd 2018 |
Cyflwyno cynnig y gyllideb flynyddol
|
18 Rhagfyr 2018 |